Dyma’r sioe deyrnged wreiddiol a gorau oll i’r Bee Gees, a’r UNIG sioe deyrnged i’r Bee Gees sydd wedi perfformio gyda’r Bee Gees gwreiddiol! Ym 1997, fe wnaeth Gary a Darren, o Jive Talkin’, berfformio’n fyw ar Heart FM gyda’r BEE GEES a chael eu canmol i’r cymylau gan Maurice a Barry Gibb…
Yn debyg i’r Bee Gees gwreiddiol, mae Jive Talkin’ yn fusnes teuluol – mae’r brodyr, Gary a Darren Simmons, yn cymryd rolau Barry a Maurice Gibb, ac fe wnaeth mab Darren, Jack, ymuno â’r grŵp yn 2014 a chymryd rôl Robin Gibb. Mae band pedwar darn yn gymorth cerddorol i’r bechgyn – gyda phrif gitâr, feiolin, soddgrwth a drymiau – i sicrhau taro’r nodyn cywir ym mhob cân!
Ble bynnag mae’r grŵp yn chwarae, maen nhw’n cael clod rhagorol: “The Soundalike quality is quite sensational” (The Stage), “Amazing similarity to the real Bee Gees” (Wakefield Express), “Absolutely brilliant” (Maurice Gibb), “WOW” (Barry Gibb).
Dyma brofiad gwirioneddol anhygoel a chyfle i glywed holl ganeuon poblogaidd y Bee Gees – Tragedy, Night Fever, Massachusetts, Stayin’ Alive, Jive Talkin’ ac ati – mewn ffrwydrad o gerddoriaeth a harmonïau lleisiol sydd ddwy awr o hyd. Mae hon yn noson na ddylai gael ei cholli!