Mae Ernie’s Journey yn antur theatr syrcas hudolus ar gyfer teuluoedd.
Mae’r cyfuniad di-dor o syrcas, theatr corfforol, hud llwyfan, barddoniaeth a phypedwaith yn olygfa wirioneddol drawiadol.
Mae sgôr telyn wreiddiol a byw yn tywys y stori o diroedd breuddwydiol glannau anghysbell i siantis môr croch!
Mae’r sioe hon yn arbennig o hudolus i blant 4-11 oed, ond bydd y syrcas medrus yn rhyfeddu cynulleidfaoedd o bob oed.
Roedd Ernie’n teimlo fel nad oedd gan neb wir ffydd ynddo, ac weithiau byddai e’n meddwl tybed a oedd ganddo ffydd yn ei hun hyd yn oed.
Mae’n darganfod y gall fod yn ef ei hun, a bod dilyn ei freuddwydion ei hun yn gallu arwain at bob math o anturiaethau gwyllt, ond gan ddarganfod mai’r bobl rydyn ni’n eu caru sy’n gwneud y cyfan yn werth chweil.
Mae’r sioe hon wedi’i chynllunio i gysylltu cynulleidfaoedd â’r dyfrffyrdd o amgylch lle maen nhw’n byw, gan feddwl sut maen nhw’n bwydo i mewn i systemau morol cenedlaethol a rhyngwladol.
Bachgen ifanc o Goed Duon yw Ernie, sy’n dod o hyd i hen long môr-ladron ar lan Afon Sirhywi.
Mae ein partneriaeth â Somerset Wildlife Trust wedi llywio cynnwys y sioe a’r gweithdai.