Perfformiad ysgolion yn unig, iaeth Cymraeg yw hwn. Cysylltwch â’n Swyddfa Docynnau ar 01495 227206 am fwy o wybodaeth.
Mae Culhwch yn caru Olwen er nad yw e wedi ei gweld hi erioed. Dyw Olwen erioed wedi clywed am Culhwch chwaith ac felly does ganddi ddim syniad bod Culhwch am ei phriodi.
Ond dyw tad Olwen, y cawr blin Ysbyddaden Boncyrs ddim eisiau i Olwen briodi byth ta beth. Ond dyw Culhwch ddim yn gwybod hynny ac mae’n dechrau ar ei daith i ddod o hyd i ferch ei freuddwydion.
Er mwyn ennill Olwen ma’ Mr. Boncyrs yn dweud bod rhaid i Culwch wneud ambell ‘i dasg fach fel ymladd draig, dwyn crib y Twrch Trwyth ac yn waeth na dim gwneud dawns y glocsen yn ei bants!
Beth alle fynd o’i le?!