Yn ôl i'r brig

The ‘Stute Fforwm

RYDYN NI EICH ANGEN CHI!

Mae Sefydliad y Glowyr, Coed Duon, yn chwilio am unigolion brwdfrydig i ymuno â’n grwpiau ffocws ni gan ddechrau yn fuan! Ar hyn o bryd, rydyn ni’n gweithio ar ddau grŵp ar wahân – un ar gyfer Iaith Cymraeg ac un ar gyfer pobl ifanc 16-25 oed. Os yw un o’r grwpiau hyn o ddiddordeb i chi, dewch i ddweud eich dweud ar yr hyn sy’n digwydd yn eich theatr leol. Cysylltwch â ni!

Beth yw’r buddion?
Tocynnau am ddim i sioeau dethol
Cwrdd â phobl o’r un anian
Lluniaeth am ddim mewn cyfarfodydd
– Cynrychioli llais y gymuned

Gallwch chi gysylltu â ni ar Facebook, drwy ein ffurflen gyswllt neu e-bost – sgc@caerffili.gov.uk

Rydyn ni’n edrych ymlaen at glywed gennych chi!

Sesiwn 1 – Nos Fawrth 17 Mawrth
– Pobl ifanc 16-25 oed – 6pm – 7pm
– Iaith Gymraeg – 7:30pm – 8:30pm