Mae’n amser chwerwfelys i ffarwelio â chydweithiwr wrth iddynt symud ymlaen i heriau gyrfa newydd a chyffrous. Mae Eloise wedi bod wrth y llyw yn Sefydliad y Glowyr Coed Duon ers iddo ail-agor yn 2022, ac mae wedi bod yn ffigwr hanfodol bwysig, nid yn unig o ran cael y lleoliad yn ôl ar ei draed, ond hefyd o ran ehangu argaeledd perfformiadau celfyddydol a diwylliannol yn y Coed Duon a’r ardaloedd o gwmpas.
Ond ar ôl dwy flynedd gyda Sefydliad y Glowyr Coed Duon, mae Eloise wedi cael cynnig cyfle gwych gyda Chwmni Theatr Hijinx yng Nghaerdydd a bydd yn gadael am antur newydd ar Gorffennaf 12.
“I have learned so much during my time at Blackwood Miners’ and am immensely proud of everything we have achieved during such a challenging time for arts and culture. This building and the community here in Blackwood are so special and I hope it continues to thrive for many years to come. Thanks to my colleagues who work so hard and are such wonderful humans. I will miss them all hugely. I am looking forward to a new challenge with the fantastic Hijinx Theatre and cannot wait to get started in July.”
Gobeithio y byddwch i gyd yn ymuno â ni i ddymuno’r gorau iddi gyda’r cyfle gwych hwn, a diolch yn fawr iawn iddi am yr holl waith caled ac ymroddiad y mae wedi’i roi i’n theatr.
Tîm Sefydliad y Glowyr Coed Duon