Yn ôl i'r brig

Ballet Cymru’s Sleeping Beauty

Hafan » Beth sy' mlaen » Ballet Cymru’s Sleeping Beauty
Dance

Taith i fyd cyfareddol cariad, hud a lledrith, a thynged

Mae Ballet Cymru yn ailddychmygu’r stori tylwyth teg glasurol am dywysoges ifanc sy’n cael ei swyno gan felltith.

Gan gyffwrdd â themâu cariad, cael eich derbyn, a’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn wahanol, mae’r ballet yn cael ei ysgubo ymlaen gan sgôr eiconig Tchaikovsky.

Mae Sleeping Beauty yn cynnwys coreograffi arloesol, dawnsio eithriadol, gwisgoedd arbennig, a thafluniadau y byddwch yn ymgolli ynddynt.

Dewch i mewn i’r goedwig i ddathlu pen-blwydd Ballet Cymru yn 40 oed a gweld y dawnswyr anhygoel yn eich tywys ar daith heb ei thebyg.

Yn cynnwys disgrifiad clywedol wedi’i recordio ymlaen llaw yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Galwch y Swyddfa Docynnau ar 01495 227206 i archebu.

Coreograffi a Dehongli: Amy Doughty a Darius James OBE
Sgôr Gwreiddiol gan: Tchaikovsky
Trwyddedig trwy garedigrwydd Naxos Music UK Ltd
Credyd: (TCHAIKOVSKY: Sleeping Beauty (The) (Complete Ballet) Wedi’i pherfformio gan Gerddorfa Ffilharmonig Gwladol Slofacia, Košice a Mogrelia, Andrew – Arweinydd
Dylunydd Goleuo: Chris Illingworth
Lluniau: Ffotograffiaeth Siân Trenberth

Oriel digwyddiad

Efallai yr hoffech chi hefyd...

23 Hydref 2026

The Ultimate Classic Rock Show

Music
24 Hydref 2026

Thank Abba For The Music

Music
27 Hydref 2026

K-POP Icons

Music
28 Hydref 2026

Carw | Deer

Family