Yn ôl i'r brig

Tinderella

Hafan » Beth sy' mlaen » Tinderella
Entertainment

Paratowch at y PANTOMEIM I OEDOLION mwyaf doniol, digywilydd a drygionus rydych chi bob amser wedi dymuno’i weld. Dyma’ch cyfle chi i gael hwyl… gadewch y plant gartref gan nad yw’r sioe hon yn addas ar eu cyfer!

Tinderella yw’r panto i oedolion mwyaf gwarthus i ymddangos ar lwyfan ac, wrth gwrs, mae ychydig yn wahanol i’r stori dylwyth teg glasurol! Dyma’ch gwahodd i noson o chwerthin aflafar, ensyniadau, datganiadau digywilydd a chyfarfyddiadau annisgwyl a fydd yn gwneud i chi grefu am fwy!

Mae Tinderella yn athrylith ar y cyfryngau cymdeithasol ac yn ddylanwadwraig go iawn, ond ffugesgus yw’r cyfan gan nad oes gan Tinders druan unrhyw arian, does ganddi ddim dyn ac mae’r bywyd hudolus y mae’n honni ei bod yn byw yn un cwbl ffug. Nes ei bod, un diwrnod, yn cwrdd â nid un ond dau dywysog yn y goedwig…

A fydd hyn yn arwain at ddiweddglo hapus neu a fydd hi’n colli mwy na’i hesgid?!
Byddwch chi’n awchu am fwy yn y panto hynod ddoniol hwn gan brif gynhyrchydd pantomeimiau i oedolion y Deyrnas Unedig.

Gallwch chi ddisgwyl anthemau di-chwaeth, miri masweddus, dwli digrif a digon o gyfleoedd i gymryd rhan fel cynulleidfa.

Gadewch y plant gartref a chydiwch yn eich esgidiau gwydr i fwynhau TINDERELLA, Two Big Balls, One Happy Ending!

RHYBUDDION:
– Efallai nad yw’n wleidyddol gywir
– Sicr o gael diweddglo hapus

18 oed neu’n hŷn yn unig 😈

Efallai yr hoffech chi hefyd...

27 Mai 2026

Folk Night

Original Music
29 Mai 2026

Welsh Wrestling

Entertainment
30 Mai 2026

90s Live

Music
1 Mehefin 2026

Meet Fred

Theatre