“We are on a mission…”
Mae The All New Blues and Soul Revue wedi bod yn syfrdanu cynulleidfaoedd gyda’u teyrnged drawiadol a thriw i’r clasur cwlt ‘The Blues Brothers’™ ers 2002.
Ynghyd â band byw llawn gydag wyth person, sy’n cynnwys rhai o gerddorion gorau’r DU, a chynhyrchiad newydd syfrdanol, mae’r sioe hon yn gwneud llawer mwy na chodi het i’r clasur cwlt gwreiddiol o 1980.
Gallwch chi ddisgwyl comedi, coreograffi a chyfraniad gan y gynulleidfa wrth iddyn nhw’ch tywys chi ar wibdaith trwy ganeuon mwyaf poblogaidd y ddwy ffilm gwlt, ynghyd â llawer mwy o glasuron yr enaid!