Yn ôl i'r brig

Sound & Vision – A Tribute to David Bowie

Hafan » Beth sy' mlaen » Sound & Vision – A Tribute to David Bowie
Cerddoriaeth

Byddwch yn barod – mae’r ‘Starman’ yma!! Cafodd ‘Sound & Vision – A tribute to David Bowie’ ei lansio yn 2022 ar y dyddiad a fyddai wedi bod yn ben-blwydd Bowie yn 75 oed. Er i’w yrfa ymestyn dros bum degawd, arhosodd yn berthnasol i’w gynulleidfa frwdfrydig, hir-dymor a chynulleidfa iau a oedd yn dod i’r amlwg. Ni fu erioed artist sydd wedi cynnig ysbrydoliaeth i gymaint o bobl yn y diwydiant cerddoriaeth.

Mae ei ganeuon dal i allu cael effaith a dylanwadu ar y rhai sy’n caru cerddoriaeth ledled y byd. Apêl unigryw ‘Sound & Vision’ yw ail-greu llais yr arwr ei hun yn berffaith a’r cerddorion eiconig roedd e wrth ei fodd yn gweithio gyda nhw. Mae’r band 7 darn yn rhoi’r cyfle i’r gynulleidfa werthfawrogi arlliwiau cymhleth ei amrywiaeth eang o ganeuon. Ac maen nhw i gyd yno… ‘Ziggy Stardust’, ‘Life on Mars’, ‘Starman’, ‘All the Young Dudes’, ‘Rebel-Rebel’, ‘China Girl’… a llawer iawn mwy.

Mae gan Chris Burke lais tebyg i Bowie heb os. Mae ei lais yn golygu y byddwch chi’n mwynhau perfformiad pob cân yn ôl y disgwyl. Yn ail-greu ei lais yn berffaith. Caewch eich llygaid a byddwch chi’n meddwl ei fod e yn yr ystafell. Ond, nid dim ond y lleisiau sy’n bwysig. Mae gallu cerddorol a thalent aelodau eraill y band yn wirioneddol o’r radd flaenaf. Mae’r sioe yn cynnwys Jeff John (prif gitarydd), John Wilmott (bas), Colin Elward (allweddellau) Simon Harry (gitarydd rhythm), Gareth Addey (drymiau) a Mike Davies (sacsoffon).

Mae’r sioe yn hudol gyda goleuadau a seinwedd syfrdanol, wedi’i dylunio i ysgogi eich holl synhwyrau… ac mae’n cynnwys ambell syrpreis hefyd. Mae’n addas i bawb, a bydd yn gwneud i chi ddawnsio yn yr eiliau. Dewch i ddathlu cerddoriaeth anhygoel David Bowie gyda ni. Bydd yn brofiad roc cofiadwy gyda sioe dynwaredwr llais Bowie gorau y DU.

Efallai yr hoffech chi hefyd...

13 Medi 2024 - 14 Medi 2024

Walk Like a Man

Cerddoriaeth
21 Medi 2024

Minny Stynker

Teulu
26 Medi 2024 - 28 Medi 2024

The Three Musketeers

Theatre
5 Hydref 2024

The History of Rock

Cerddoriaeth