Yn ôl i'r brig

Caerphilly Youth Theatre Summer Intensive

Hafan » Beth sy' mlaen » Caerphilly Youth Theatre Summer Intensive
Workshop

Rydyn ni wrth ein bodd yn cyhoeddi Cwrs Dwys yr Haf – Theatr Ieuenctid Caerffili, sy’n wythnos o hwyl, creadigrwydd, a hyfforddiant theatr wedi’i gynllunio ar gyfer actorion ifanc uchelgeisiol!

Dyddiad: 12–16 Awst 2024
Amser: 10am–3pm bob dydd
Lleoliad: Sefydliad y Glowyr, Coed Duon
Cost: £115 y pen am yr wythnos gyfan

Beth i’w ddisgwyl

Gweithdai difyr
Bydd pobl ifanc yn cymryd rhan mewn gweithdai hyfforddiant theatr gerdd ymarferol i ddatblygu eu dealltwriaeth a gwella eu sgiliau.

Archwilio sioe mewn wythnos
Drwy gydol yr wythnos, bydd Cwrs Dwys yr Haf – Theatr Ieuenctid Caerffili yn archwilio sioe mewn wythnos, gan ddysgu caneuon, coreograffi, a dramateiddio golygfeydd un o sioeau cerdd mwyaf poblogaidd y DU!

Perfformiad arddangos
I orffen yr wythnos gyda chlec, bydd cast Cwrs Dwys yr Haf – Theatr Ieuenctid Caerffili yn arddangos yr hyn maen nhw wedi ei ddysgu drwy gydol yr wythnos i deulu a ffrindiau.

Pam ymuno?

  • Magu hyder: Gwella eich presenoldeb llwyfan a sgiliau actio.
  • Gwneud ffrindiau newydd: Cysylltu â pherfformwyr ifanc angerddol eraill.
  • Cael hwyl: Mwynhau haf llawn creadigrwydd a chyffro!
  • Mae lleoedd yn gyfyngedig, felly peidiwch â cholli’r cyfle anhygoel hwn.
    Os hoffech chi ragor o wybodaeth, cysylltwch â thîm Datblygu’r Celfyddydau yn:
    E-bost: DatCelfyddydau@caerffili.gov.uk
    Ffôn: 01495 227206

    Efallai yr hoffech chi hefyd...

    20 Mehefin 2024

    Austen’s Women: LADY SUSAN

    Theatre
    21 Mehefin 2024

    Band Nights

    Cerddoriaeth Wreiddiol
    22 Mehefin 2024

    Michael Jordan’s Magic & Marvels

    Adloniant
    5 Gorffennaf 2024

    Comedy Nights

    Comedi