Mae Panel Cynghori Sefydliad y Glowyr Coed Duon yn chwilio am aelodau newydd wrth i ni gychwyn ar gyfnod o newid.
Yn ystod misoedd olaf 2024 llwyddodd y Panel Cynghori i gefnogi Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ac eraill i ddechrau’r gwaith o edrych ar fodelau darparu gwasanaeth amgen ar gyfer cynaliadwyedd Sefydliad y Glowyr Coed Duon yn y dyfodol.
Mae’r Panel Cynghori nawr yn dymuno recriwtio unigolion a all ddod â sgiliau penodol i helpu i lunio dyfodol y sefydliad, gan adeiladu ei hydwythdedd tra’n cefnogi’r gwaith o gyflawni rhaglen gyffrous o waith ar gyfer blwyddyn ei ganmlwyddiant.
Am Sefydliad y Glowyr Coed Duon
Sefydliad y Glowyr Coed Duon yw un o’r lleoliadau celfyddydol mwyaf bywiog yn Ne Cymru. Rydym yn creu ac yn cyflwyno celfyddydau proffesiynol a chymunedol o ansawdd uchel ar gyfer ystod amrywiol o gynulleidfaoedd a chyfranogwyr.
Rydym am i bawb gael mynediad at y celfyddydau a diwylliant beth bynnag fo’u hamgylchiadau ac rydym yn gweithio’n galed i greu rhaglen gytbwys a fforddiadwy sydd wedi’i dylunio i ysbrydoli, addysgu a diddanu.
Rydym yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau cyfranogol yn cynnwys drama, dawns, sioeau teulu, cerddoriaeth fyw, comedi ac adloniant, gan sicrhau bod rhywbeth at ddant pawb.
Sefydliad y Glowyr Coed Duon yw’r unig leoliad celfyddydol proffesiynol ym Mwrdeistref Sirol Caerffili. Mae Cyngor Caerffili yn cydnabod y cyfraniad mae’r celfyddydau a diwylliant yn ei wneud i adfywiad cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd y rhanbarth ac at iechyd a lles trigolion.
Mae Sefydliad y Glowyr Coed Duon yn ased cymunedol ac mae ar agor i gorff cymunedol ac amatur lleol i ymarfer, cynnal digwyddiadau neu lwyfannu cynyrchiadau.
Rydym yn cefnogi ac yn buddsoddi mewn artistiaid proffesiynol a chwmnïau newydd, i gefnogi syniadau newydd a’r genhedlaeth nesaf o wneuthurwyr theatr.
Ein Blaenoriaethau
Ar yr adeg heriol hon i’r celfyddydau a’r awdurdod lleol, blaenoriaeth y Panel Cynghori yw sicrhau hydwythdedd Sefydliad y Glowyr Coed Duon yn y dyfodol.
Bydd aelodau newydd y Panel Cynghori yn chwarae rhan hanfodol wrth ddatblygu gweledigaeth a model gweithredu Sefydliad y Glowyr Coed Duon ar gyfer y dyfodol. Bydd hyn yn cynnwys cynghori’r awdurdod lleol ar gynigion o astudiaethau dichonoldeb.
Sgiliau a Phrofiad
Rydyn ni’n gyffrous i fod yn recriwtio aelodau newydd i’n cefnogi wrth i ni gychwyn ar gyfnod o archwilio, gan arwain at gyfnod o drawsnewid a newid.
Rydym yn chwilio’n arbennig am sgiliau a phrofiad yn un neu fwy o’r meysydd canlynol a fydd yn ategu rhai aelodau presennol y panel:
Byddem hefyd yn disgwyl i aelodau paneli fod ag angerdd dros y celfyddydau a/neu ddealltwriaeth o sector y celfyddydau yng Nghymru
Mae rhagor o wybodaeth am Sefydliad y Glowyr Coed Duon ar gael yma.
Ymrwymiad
Mae’r Panel Cynghori ar hyn o bryd yn cyfarfod bob mis yn gynnar gyda’r nos. Trafodir dyddiadau ac amseroedd ymhlith aelodau’r panel i sicrhau presenoldeb mwyafrifol.
Hyd y tymor
Tymor o 24 mis gyda’r opsiwn i adnewyddu, os yw hyn yn briodol.
Manteision
Mae ymuno â’r Panel Cynghori yn rhoi cyfle i aelodau wneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddyfodol Sefydliad y Glowyr Coed Duon. Gobeithiwn y bydd cydweithio â ni yn sicrhau bod y sefydliadau’n parhau’n berthnasol ac yn ystyrlon i’r holl randdeiliaid yn ogystal â bod yn addas at y diben ar gyfer y dyfodol.
Mae hwn yn grŵp gwirfoddol; fodd bynnag, gall aelodau gael eu had-dalu am unrhyw dreuliau a gafwyd drwy eu cyfranogiad.
Proses Ymgeisio
Anfonwch lythyr byr neu fideo, yn Gymraeg neu Saesneg, yn amlinellu eich diddordeb mewn ymuno â’r panel ac yn egluro pa sgiliau/profiad y gallech ddod â nhw. Hyd mwyaf 1 ochr A4 / 3 munud
Dylid anfon ceisiadau at bmiadvisorypanel@outlook.com erbyn 12pm ddydd Iau 21 Chwefror 2025. I gael sgwrs anffurfiol am ymuno â’r Panel Cynghori, cysylltwch â bmiadvisorypanel@outlook.com.